comisiwn dylunio cymru (cdc)
Dechreuodd partneriaeth Cambrensis gyda Comisiwn Dylunio Cymru (CDC) ym mis Ebrill 2004 wedi i ni gael ein gwahodd i ddod i fyny gydag awgrymiadau ar gyfer eu hymgyrch cysylltiadau cyhoeddus cyntaf.
Roedd y Comisiwn yn chwilio am ymgyrch cyllideb isel a fyddai'n annog diddordeb mewn dylunio a phensaernïaeth yng Nghymru gyfan, nid yn unig ymysg yr arbenigwyr ond hefyd ar y stryd. Awgrymodd Cambrensis yr ymgyrch 'Eich Milltir Sgwâr'.
Cafwyd cefnogaeth nifer o enwogion am eu hoff fannau yng Nghymru. Fel rhan o'r ymgyrch papurau newydd, radio a theledu gofynnwyd i'r cyhoedd fynd i fap rhyngweithiol arbennig ar safle we CDC a nomineiddio eu hof fannau. Yn ystod Wythnos Pensaernïaeth Cymru, cyhoeddwyd '10 uchaf' Cymru.
Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.
|