cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
cysylltiadau cyhoeddus

gwobrau busnes gwynedd

Ym mis Mai 2006, cydweithiodd Cambrensis ag ATOM er mwyn trefnu Gwobrau Busnes Gwynedd ar ran Cyngor Gwynedd.

O fewn amserlen byr iawn o ddau fis, roedd y tîm yn gyfrifol am reoli'r digwyddiad a'r cysylltiadau cyhoeddus yn ogystal â gweinyddu'r broses o ymgeisio.  Roeddem hefyd yn gyfrifol am frandio a chodi nawdd i'r digwyddiad.

Fel dathliad o lwyddiant lleol, roedd yn hanfodol cadw'r ethos yma o'r gorau o gynnyrch lleol wrth iddym drefnu'r Gwobrau. Felly defnyddiwyd cynnyrch lleol ar y fwydlen, D?r Yr Wyddfa ar gyfer y byrddau, adloniant o'r sir ac wrth gwrs defnyddiwyd gyflenwyr lleol ar gyfer gwaith dylunio, gwasnaethau clyweled, blodau a ffotograffiaeth.

Mynychodd 150 o westai'r digwyddiad yng Ngwesty'r Celt.  Cafwyd cefnogaeth arbennig gan y sector busnes, gyda llawer o geisiadau ym mhob categori. Noddwyd y deg categori gan 15 sefydliad. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y flwyddyn hon, penderfynodd Cygor Gwynedd i wneud y digwyddiad yn un blynyddol.

Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.

*
gwynedd business awards