cambrensis communications

hafan  |  newyddion  |  amdanom ni  |  ein gwasanaethau  |  cysylltwch â ni  |  dolenni  |  english

ein gwasanaethau
Maint y testun increase font size decrease font size
*
*
cysylltiadau cyhoeddus

cyngor gwynedd
— llwyddo'n lleol (get on in gwynedd)

Mae prosiect Llwyddo'n Lleol yn brosiect £750,000 sydd yn cael ei reoli gan Cyngor Gwynedd ac wedi ei ariannu o dan raglen 'Gweithredu Dros Gymunedau Gwledig' Llywodraeth Cynulliad Cymru dan adain yr Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau (gynt y WDA).  

Datblygwyd y cynllun i ateb anghenion allweddol a adnabuwyd yng Ngwynedd, sef yr angen i:

  • fabwysiadu ysbryd o fenter ymhlith ein pobl ifanc (13—30 oed)
  • annog pobl ifanc i ddod yn aelodau blaenllaw o'u cymunedau a'r economi leol
  • amlygu'r dewis i aros yng Ngwynedd i fyw a gweithio fel dewis anturus

Briff Cyngor Gwynedd o ran y sioeau teithiol oedd:

'datblygu a gweithredu cyfres o sioeau teithiol proffil uchel, sy'n hwyliog ac yn ddatblygiadol ar gyfer pobl ifanc yng Ngwynedd.'

Roedd y briff hefyd yn manylu y dylai:

'brand a neges Llwyddo'n Lleol gael eu pwysleisio drwy'r ymgyrch a [dylid] datblygu strategaeth cysylltiadau cyhoeddus i hybu'r sioeau teithiol gyda chyfryngau lleol a chenedlaethol yn cynnwys gorsafoedd radio a theledu.'

Nodwyd hefyd y dylai'r sioeau teithiol:

  • Atgyfnerthu dealltwriaeth a gwybodaeth pobl ifanc o fenter, a'i gwybodaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn lleol
  • Atgyfnerthu agweddau cadarnhaol tuag at fenter a meithrin yr ethos 'gallu gwneud'
  • Cael neges glir fod Gwynedd yn lle da i fyw a gweithio ynddo a cheir llawer o gyfleoedd iddynt yn lleol, gyda menter yn un o'r dewisiadau hyfyw

Penderfynwyd gweithredu'r sioeau teithiol ar ffurf diwrnod o weithgareddau ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 holl ysgolion uwchradd Gwynedd, sef 14 ysgol i gyd.  Dewiswyd tri lleoliad pwrpasol ar gyfer y digwyddiadau, sef Galeri Caernarfon, Plas Tan y bwlch a Gwersyll Glan-llyn. Daethpwyd o hyd i entrepreneuriaid ifanc o gefndiroedd gwahanol — a chyffrous i bobl ifanc — gan gynnwys athrawes ioga, animeiddiwr, cyflwynydd teledu, awdur, hyfforddwr awyr agored a chwaraeon eithafol ac aelod o fand roc Cymraeg oedd yn rhedeg cynllun cerddoriaeth i bobl ifanc. Roedd yr unigolion hyn yn gyfrifol am redeg sesiynau hanner awr ar gyfer pobl ifanc yn dangos yr ystod eang o bosibiliadau sy'n agored o ran byw a gweithio yng Ngogledd Cymru.

Roedd Cambrensis yn gyfrifol am ddatblygu'r holl gysyniad y tu ôl i'r sioeau, brandio a marchnata'r sioe i ysgolion a deiliaid diddordeb eraill, hybu cyhoeddusrwydd i'r sioeau ymysg y wasg a'r cyfryngau, darparu deunyddiau a chynnwys partneriaid Llwyddo'n Lleol yng nghynlluniau'r diwrnod yn ogystal â rheoli pob agwedd o'r digwyddiad ar y pedwar diwrnod. 

Cafwyd adborth arbennig o dda i'r sioeau teithiol nid yn unig gan Cyngor Gwynedd, ond hefyd gan yr athrawon a'r bobl ifanc eu hunain. 

Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.

*
get on gwynedd
*
get on gwynedd
*
get on gwynedd