cyngor llyfrau cymru (cllc)
Mae Cambrensis wedi bod yn gyfrifol am wella proffil llyfrau Cymraeg eu hiaith am dros flwyddyn bellach.
Y nod yw hyrwyddo llyfrau Cymraeg eu hiaith yn y wasg Saesneg a Chymraeg.
Rydym yn cefnogi gwaith y cyhoeddwyr wrth hyrwyddo eu llyfrau drwy greu cysylltiadau cryf gyda'r wasg a'r cyfryngau. O ddydd i ddydd rydym yn cysylltu â newyddiadurwyr a chwmnïau teledu a radio gyda syniadau am erthyglau arbennig, yn ymchwilio ac yn ysgrifennu datganiadau i'r wasg, yn trefnu ffotograffiaeth a sylw i lansiadau a sesiynau llofnodi ac yn darparu cynnwys ar gyfer safleoedd gwe megis 'Llais Llên' BBC Ar—Lein.
Ewch i'r dudalen newyddion i ddarllen y datganiad diweddaraf.
|