|
Ffurfiwyd adain deledu a radio Cambrensis gan Arwel Ellis Owen yn dilyn gyrfa 30 mlynedd o hyd gyda'r BBC. Rydym yn cynhyrchu rhaglenni teledu a radio o ansawdd uchel ar gyfer S4C, BBC Radio Wales a Radio Cymru.
Un o'n uchelbwyntiau fel cwmni oedd ennill gwobr BAFTA Cymru a gwobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm Würzburg ar gyfer yr anfarwol Porc Pei, gan Wynford Ellis Owen. Ar gefn llwyddiant y ffilm wreiddiol daeth chwe cyfres o Porc Peis Bach, a enillodd wobr BAFTA Cymru arall am y gwisgoedd. Yn ddiweddar, perfformiwyd sioe lwyfan yn seiliedig ar y gyfres — O Diar! — a werthodd allan ymhell cyn ei lwyfannu yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005.
Mae cefndir Arwel ym maes materion cyfoes a newyddion, ynghyd â diddordeb mawr mewn hanes, yn golygu fod Cambrensis yn arbenigo mewn rhaglenni dogfen ar bynciau o grefydd i genedlaetholdeb.
|